
Mae gan Gwasanaeth Angladdau Lewis ‘Capel Gorffwys’ aml bwrpas modern yn Afallon.

O fewn yr adeilad mae Capel ar gyfer Gwasanaeth Angladdol; Capel Gorffwys Preifat ac ystafell i ymweld â'r ymadawedig. Hefyd swyddfa ac ystafell drefnu lle gall teuluoedd drwy apwyntiad ymgynnull i drefnu'r angladd. Rydym yn fodlon trefnu'r angladd yn eich cartrefi hefyd.
Lleolir Afallon mewn man cyfleus o fewn amgylchedd preifat gyda mynediad a lle parcio hwylus. Ein nod yw cyflwyno gwasanaeth urddasol o'r radd uchaf mewn preifatrwydd.
Os oes agweddau penodol o wasanaeth y dymunwch eu derbyn nad sy’n rhestredig, cysylltwch â ni er mwyn trafod eich gofynion a'ch dymuniadau.