


Gwasanaeth teuluol sy'n ofalus ohonoch
Mae Gwasanaeth Angladdau Lewis yn ei chymryd yn fraint ac yn anrhydedd i gynorthwyo teuluoedd yn eu galar a´u profedigaeth. Wrth fyw yng nghefn gwlad yng Ngorllewin Cymru daw nifer o alwadau i´n rhan trwy eirda.
Y dyddiau hyn mae gwahanol themau a naws mewn angladdau, mae Gwasanaeth Angladdau Lewis yn ymdrechu i barchu gofynion pawb ; ai´n grefyddol, di-grefydd, traddodiadol, modern neu liwgar. Gwnawn ein gorau i addasu pob gwasanaeth i greu angladd unigryw yn unol â chyfarwyddiadau, dymuniadau a chyllidebau y cleientiaid.
Gwasanaeth – am restr gynhwysfawr o'r gwasanaethau a gynigir.